Mae hyd at 3,000 o redwyr – y nifer fwyaf erioed – wedi dechrau marathon Eryri heddiw (dydd Sadwrn, 27 Hydref).
Yn eu plith mae enillydd 2016, Russell Bentley oedd wedi gorfod methu’r ras y llynedd oherwydd anaf. Mae disgwyl brwydr dda rhyngddo fe a Dan Jones o Gaerfaddon, a ddaeth i’r brig y llynedd.
Fe fydd y rhedwr 75 oed o Glan Conwy, Iorwerth Roberts, yr unig redwr i gystadlu ym mhob marathon Eryri hyd yn hyn, hefyd yn dychwelyd i gynnal ei record.
Yn ras y menywod, mae disgwyl brwydr galed rhwng Sarah Cumber, oedd yn drydydd y llynedd, ac Emma Wookey oedd yn bumed.
Fe fydd y cyn-chwaraewr rygbi ac un o brif noddwyr y ras, Rupert Moon yn rhedeg y tu ôl i’r cystadleuwyr fel rhan o’i ddyletswyddau.
Mae’r llwybr ar gyfer y ras yn dechrau yn Llanberis ac yn mynd trwy Feddgelert, Waunfawr a Bwlch y Groes cyn dychwelyd i Lanberis. Mae’n cwmpasu Bwlch Llanberis a Nant Gwynant.
Dyma’r 36ain flwyddyn i’r ras gael ei chynnal ers y marathon cyntaf un yn 1982.

Mae rhai o enwau mawr rasys marathon wedi cystadlu ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Jeff Norman, Martin Cox, Rob Samuel, Andrea Rowlands a Lizzy Hawker.

Mae modd dilyn yr holl redwyr yn fyw drwy fynd i wefan y ras neu Facebook, ac fe fydd uchafbwyntiau ar S4C nos Sul.