Mae merch ddeuddeg oed sy’n chwarae tenis bwrdd dros Gymru, ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC.

Anna Hursey yw’r ieuengaf erioed i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a’r ieuengaf i gynrychioli Cymru mewn unrhyw chwaraeon ar lefel uwch.

Fe fydd y ferch o Gaerfyrddin yn ymuno â thalent ifanc eraill gwledydd Prydain sydd ar y rhestr fer, gan gynnwys y pêl-droediwr Ryan Sessegnon, y para-athletwraig Kare Adenega, y nofwraig Freya Anderson a’r rasiwr ceffylau James Bowen.

Gyrfa aeddfed merch ifanc

Fe ddechreuodd Anna Hursey chwarae tenis bwrdd yn bump oed ac erbyn iddi droi yn ddeg roedd hi wedi cystadlu yng ngemau Cymhwyso’r Bencampwriaeth Ewropeaidd mewn gêm yn erbyn Kosovo yn 2017.

Yn yr un flwyddyn, cystadlodd yng nghystadleuaeth tenis bwrdd y ‘World Cadet Challenge’, cyn cynrychioli Cymru ynn Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn ystod haf 2018.

Enillodd Hursey fuddugoliaethau mewn dwy gêm ddwbl ac un sengl yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur.