Mae tlws Tour de France y Cymro Geraint Thomas wedi cael ei ddwyn o sioe feics yn Birmingham.

Mae tîm Sky wedi bod yn arddangos holl dlysau’r Grand Tour yn ystod cyfres o sioeau yng ngwledydd Prydain.

Roedd y tîm wedi rhoi benthyg y tlysau i gwnni Pinarello ar gyfer y Sioe Seiclo yn yr NEC ddiwedd mis Medi. Mae lle i gredu bod y tlws wedi cael ei adael ar ei ben ei hun am gyfnod pan oedd staff yn rhoi offer i gadw.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.

“Anffodus dros ben”

“Mae’n anffodus dros ben fod hyn wedi digwydd,” meddai Geraint Thomas.

“Does dim rhaid dweud bod y tlws o werth cyfyng iawn i bwy bynnag oedd wedi ei ddwyn, ond mae’n golygu tipyn i fi ac i’r tîm.”

Er ei fod yn dweud bod y tlws yn “bwysig”, dywed hefyd fod “yr atgofion anhygoel” yn rhai nad ydyn nhw’n gallu cael eu cymryd oddi wrtho.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Pinarello UK, Richard Hemington fod y cwmni’n “cymryd cyfrifoldeb llawn” ac wedi ymddiheuro wrth Geraint Thomas.