Mae nith yr hyfforddwr paffio Enzo Calzaghe wedi gwadu ar wefan Facebook bod ei hewythr wedi marw.

Roedd yr adroddiadau o’i farwolaeth honedig wedi dechrau torri yn y papurau newydd nos Wener, ond fe fu dryswch wedyn ar ôl i Carrie Calzaghe bostio neges ar wefan Facebook yn dweud nad oedd yr adroddiadau’n gywir.

Dywedodd fod Enzo Calzaghe, tad 69 oed cyn-bencampwr y byd Joe, yn “ddifrifol wael” yn yr ysbyty.

Yn ystod ei yrfa fel hyfforddwr, roedd yn gyfrifol am ddatblygu gyrfa ei fab yn ogystal â’r cyn-bencampwr byd o Abertawe, Enzo Maccarinelli. Roedd ei fab yn ddi-guro mewn 46 o ornestau.

Neges Carrie Calzaghe

Dywedodd Carrie Calzaghe, nith Enzo, ar wefan Facebook, “Dydy Enzo Calzaghe, fy ewythr, ddim wedi marw, newyddion ffug yw hyn, mae e’n fyw ond yn wael iawn.

“Rhowch lonydd i’n teulu ar hyn o bryd, os gwelwch yn dda. Mae e’n fyw ac yn brwydro o hyd.

“Byddwn yn diweddaru ac yn rhoi gwybod i chi sut mae e pan allwn ni. Parchwch a rhowch breifatrwydd i ni ar yr adeg hon. Diolch. Tîm Calzaghe.”