Mae lle i gredu mae gŵr o Geredigion yw’r Cymro cyflymaf erioed i gwblhau cystadleuaeth Dyn Haearn Cymru.

Fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Ninbych-y-Pysgod dros y Sul, lle bu’n rhaid i gystadleuwyr gwblhau cwrs a oedd yn cynnwys nofio dros bellter o 2.4 milltir, seiclo 111 milltir a rhedeg marathon cyfan (26.2 milltir).

Dyma’r trydydd tro i Gareth Hodgson o Felin-fach gwblhau’r cwrs yn Sir Benfro, ac eleni oedd y tro cynta’ iddo ers dwy flynedd.

Fe’i cwblhaodd mewn naw awr, 43 munud a 21 eiliad, gan ddod yn gyntaf yn y categori i ddynion 30-34 oed, ac 11eg safle yn y gystadleuaeth gyfan – y Cymro cyflymaf am eleni ac, o bosib, erioed.

“Dyw’r corff ddim yn rhy ffôl [erbyn hyn],” meddai wrth golwg360. “Dw i’n cerdded bach yn od, ond dw i mewn un pishyn a does dim byd mas o’i le, rili.

“Roedd y cwrs tamed bach yn galed – byth yn flatno mas… ond roedd y tywydd yn ddigon deche i fod yn onest.”

Cefnogaeth

Mae’r gŵr 31 oed wedi bod yn cystadlu’n gyson mewn cystadlaethau athletaidd ers rhyw bedair blynedd, a’r llynedd fe gystadlodd yng nghystadleuaeth Dyn Haearn y Byd yn Hawaii.

Fe ddaeth hefyd yn agos at ennill y Dyn Haearn yn Nottingham ym mis Gorffennaf, gan gwblhau’r cwrs mewn llai na naw awr a sicrhau’r ail safle.

Ond mae’n dweud y bydd y gystadleuaeth yn Ninbych-y-pysgod yn aros yn hir yn y cof iddo, ar ôl i’r gefnogaeth a dderbyniodd yno ei gadw i fynd trwy gydol y dydd.

“Roedd y gefnogaeth rownd y cwrs, sa’ i byth wedi cael cymorth fel’na o’r blaen,” meddai. “Roedd hi mor fishi ʾna. Gyda phob cornel ro’n i’n dod rownd, roedd jyst rhywun ʾna ro’n i’n ei nabod.

“Jyst fel o’n i’n meddwl am arafu, roedd rhywun yn gweiddi, ac ro’n i’n codi yn ôl lan ʾto. Fel’na oedd hi trwy’r dydd, felly ro’n i’n falch iawn.”

Troi’n broffesiynol?

Yn ystod y tymor cystadlu eleni, a wnaeth ddechrau ym mis Ebrill i Gareth Hodgson, mae wedi cwblhau dwy gystadleuaeth lawn o’r Dyn Haearn.

Mae hefyd yn awyddus i gwblhau pump o gystadlaethau Hanner Dyn Haearn, cyn y bydd ei dymor yn dod i ben ddiwedd mis Hydref.

Y nod hirdymor iddo yw troi’n broffesiynol, ac mae’n gobeithio gwneud hynny o fewn y ddwy flynedd nesa’, meddai.

“Mae tipyn o baratoi i aller fynd i lawr yr hewl ʾna,” meddai. “Ond mae popeth dw i’n ei wneud nawr, dyna beth yw’r gôl.

“Dyw hi ddim yn secret rhagor, dyna be dw i’n gweithio amdano.”