Roedd y Cymro ac enillydd ras feics Tour de France, Geraint Thomas yn 77fed yng nghymal cyntaf Taith Prydain rhwng Pen-bre yn Sir Gâr a Chasnewydd.

Yr Almaenwr Andre Greipel enillodd y cymal wrth guro’r Awstriad Caleb Ewan a Fernando Gaviria wrth wibio tua’r terfyn ar ddiwedd cymal oedd yn ymestyn dros 174.8km.

Gorffennodd cyd-seiclwr Geraint Thomas yn nhîm Sky, Chris Froome yn safle rhif 64.

Brwydrodd y Cymro’n galed tua’r terfyn wrth gadw cwmni i Julien Alaphilippe a Bob Jungels.

Bydd yr ail gymal ddydd Llun yn cael ei gynnal yn Nyfnaint.

Bydd y ras gyfan yn dod i ben yn Llundain ddydd Sul nesaf (Medi 9).