Mae’r bara-athletwraig o Gymru, Sabrina Fortune wedi ennill medal aur am daflu pwysau yng nghategori F20 ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd Cymdeithas Bara-athletau’r Byd.

Daeth ei llwyddiant ar ail ddiwrnod y gystadleuaeth yn Berlin yn yr Almaen.

Taflodd y ferch 21 oed o’r Wyddgrug bellter o 13.30 metr, gan osod record newydd ar gyfer y bencampwriaeth.

Daw ei llwyddiant ar ôl i Hollie Arnold gipio’r fedal aur am daflu gwaywffon yng nghategori F46 – y tafliad Ewropeaidd cyntaf erioed dros 40 metr – a Harri Jenkins yn ennill yr aur yn ras 100 metr T33.