Mae’r athletwr o Gymru, Dai Greene, wedi gorfod rhoi’r gorau i’w fwriad o gystadlu yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd eleni, ar ôl iddo ddioddef anaf.

Roedd y rhedwr o Lanelli, a ddychwelodd i dîm Prydain am y tro cyntaf eleni ers 2013, wedi dioddef anaf i linyn y gâr yn ystod ymarferion i ras y 400m dros glwydi yn Berlin ddoe (dydd Llun, Awst 6).

“Mae capten tîm Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Dai Greene, wedi gorfod rhoi’r gorau i gystadlu yn rownd ragbrofol y ras 400m dros glwydi i ddynion ar ôl i’w linyn y gar dynhau yn ystod ymarferion, sy’n achosi trafferth iddo wrth neidio,” meddai datganiad gan Athletau Prydain.

Blynyddoedd o anafiadau

Dyma’r anaf diweddara’ ymhlith nifer y mae Dai Greene wedi’u dioddef yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Roedd wedi gorfod rhoi’r gorau i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur yn Awstralia ym mis Ebrill oherwydd anaf i linyn y gâr.

Mae hefyd wedi dioddef o anafiadau eraill yn y gorffennol a achosodd iddo golli’r Pencampwriaethau Ewropeaidd yn 2016 a’r Gemau Olympaidd yn 2016.

Er bod y rhedwr wedi cyrraedd y brig yn Ewrop yn 2010, cyn cipio’r fedal aur ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 2011, dim ond 11 o weithiau y mae wedi rhedeg rhwng 2014 a 2017.