Mae’r nofwraig o Abertawe, Georgia Davies wedi torri record Ewropeaidd mewn rhagras 50 metr dull cefn yn Glasgow.

Gorffennodd hi’r rhagras mewn 27.21 eiliad.

Daw ei llwyddiant diweddaraf ar ôl iddi ennill medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia ym mis Ebrill.

Bydd hi’n cystadlu yn y rownd gyn-derfynol yn ddiweddarach.

Dywedodd fod ei record yn “annisgwyl”.