Mae’r seiclwr cyntaf o Gymru i ennill ras y Tour de France, wedi dweud bod ganddo awydd ennill rhagor o brif gystadlaethau’r gamp.

Mi enillodd Geraint Thomas y gystadleuaeth ddydd Sul (Gorffennaf 29) gan orffen munud a 51 eiliad o flaen Tom Dumoulin, y seiclwr a ddaeth yn ail.

Mae’r seiclwr 32 oed o Gymru wedi dweud bod ennill y Tour de France yn deimlad gwell nag ennill medalau Olympaidd – mae wedi ennill dau.

A bellach mae ganddo chwant am ragor o fedalau.

“Yn sicr mae gen i flas am hyn,” meddai. “Eleni, dw i wir wedi mwynhau rasio yn y cymalau a seiclo mewn modd ymosodol. Rasio yn reddfol, bron a bod.”

Y dyfodol

Ag yntau wedi ennill un o’r Teithiau Mawr (Grand Tours) – tri phrif gystadleuaeth seiclo’r byd – bydd Geraint Thomas yn siŵr o anelu at gystadlu mewn un arall o’r rhain.

Roedd y seiclwr wedi bwriadu cystadlu yn Vuelta a España ym mis Medi, ond mae hynny’n llai tebygol o ddigwydd yn sgil ei fuddugoliaeth dros y penwythnos.

“Dw i heb feddwl am hynny eto,” meddai Geraint Thomas wrth edrych at y dyfodol. “Ar hyn o bryd, dw i ond eisiau mwynhau [fy muddugoliaeth yn Ffrainc].”