Mae Geraint Thomas wedi bod yn derbyn negeseuon o Gymru a thu hwnt ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ei longyfarch ar ei fuddugoliaeth yn ras feics Tour de France.

Fe gipiodd e’r fuddugoliaeth wrth i’r ras ddirwyn i ben ym Mharis y prynhawn yma.

Cwblhau’r cymal olaf yn unig oedd ei nod er mwyn cael ei goroni’n bencampwr – y dyn cyntaf o Gymru i ennill y ras.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae llu o enwogion o’r byd gwleidyddol a byd y campau wedi troi at wefan gymdeithasol Twitter i’w longyfarch – ac yn eu plith mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Ac roedd neges Gymraeg hefyd gan Brif Weinidog Prydain, Theresa May.

Cyd-ddisgyblion yn yr ysgol

Yn ogystal, mae e wedi derbyn negeseuon dros y deuddydd diwethaf gan ddau o’i gyd-ddisgyblion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd – cyn-gapten rygbi Cymru, Sam Warburton, a’r pêl-droediwr Gareth Bale.

 

Ac mae tîm Sky wedi diolch i Gymru am y gefnogaeth i Geraint Thomas yn ystod y ras: