“Anghredadwy” oedd ymateb Geraint Thomas wrth iddo ennill ras feics Tour de France ym Mharis heddiw.

Fe gipiodd y fuddugoliaeth yn swyddogol wrth orffen y cymal olaf ym mhrifddinas Ffrainc, wrth i Alexander Kristoff o Norwy ennill y ras wib.

Roedd ganddo fe flaenoriaeth o funud a 51 eiliad dros yr Iseldirwr Tom Dumoulin. Chris Froome, cyd-aelod Geraint Thomas yn nhîm Sky, oedd yn drydydd.

Aeth i’r podiwm gyda’r Ddraig Goch o’i amgylch, ac fe safodd yn barchus, heb ganu, wrth i ‘God Save The Queen’ gael ei chwarae.

Dywedodd wrth Eurosport: “Mae’n anghredadwy! Dw i’n credu y bydd yn cymryd sbel i amsugno’r cyfan.

“Fel arfer, mae’r cymal hwnnw’n anodd ond heddiw, ro’n i fel pe bawn i’n arnofio. Roedd croen gwydd gyda fi wrth fynd o gwmpas.

“Roedd y gefnogaeth, a baneri Cymru a Phrydain yn afreal, dyma’r Tour de France.

“Roedd cael seiclo o gwmpas yn gwisgo [y crys melyn] hwn yn freuddwyd.”

Ymateb y tîm

Ar ddiwedd y ras, dywedodd hyfforddwr tîm Sky wrth Sky Sports News, “Dw i’n credu mai hon oedd y fuddugoliaeth fwyaf emosiynol ohonyn nhw i gyd… mae’n stori wahanol iawn.

“Fe wnaeth Geraint, wrth dyfu lan yng Nghymru, weithio mor galed am gyhyd.”

Ychwanegodd y Cymro arall yn y ras, Luke Rowe ei fod yn “Gymro balch, ac yn falch dros G”.