Mae’r seiclwr, Chris Froome, wedi mynnu y byddai’n hapus i weld, Geraint Thomas, yn ennill cystadleuaeth seiclo Tour de France.

Mae’r ddau yn aelod o dîm seiclo Sky, ac ers dechrau’r gystadleuaeth mae Chris Froome wedi cael ei ystyried yn arweinydd arnyn nhw.

Ond, bellach mae Geraint Thomas ar frig y gystadleuaeth – munud a 39 eiliad o flaen ei gyd-seiclwr, sydd yn ail.

Ac mae’n ymddangos fel bod dynamig y tîm wedi newid bellach, gyda’r seiclwr o Gymru yn ffefryn i ennill y gystadleuaeth.

“Mi fydda i’n hapus, cyn belled taw seiclwr o dîm Sky fydd ar ben y podiwm ym Mharis,” meddai Chris Froome.

Roedd y seiclwr hwnnw yn gobeithio ennill y gystadleuaeth am y pumed tro, ond bellach mae wedi dweud y byddai’n barod i aberthu’r cyfle.