Fe fydd Geraint Thomas yn gwisgo’r crys melyn unwaith eto yn ystod unfed cymal ar bymtheg ras feics Tour de France.

Mae ganddo fe flaenoriaeth o funud a 39 eiliad ar frig y bencampwriaeth, a’i gyd-seiclwr yn nhîm Sky, Chris Froome yn ail.

Roedd e’n rhan o’r peloton ar ei ffordd rhwng Millau a Carcassone, gan gadw ei flaenoriaeth gyfan drwy gydol y cymal.

Magnus Cort Nielsen enillodd y cymal, a’r peloton yn croesi’r llinell ryw dair munud ar ddeg yn ddiweddarach.

Fydd y ras ddim yn cael ei chynnal heddiw er mwyn rhoi cyfle i’r cystadleuwyr orffwys.

Helynt tîm Sky

Er gwaetha’ llwyddiant Geraint Thomas a Chris Froome, mae un arall o’u cyd-seiclwyr, Gianni Moscon wedi’i ddiarddel o’r ras am daro cystadleuydd arall, Elie Gesbert.

Nid dyma’r tro cyntaf iddo’i gael ei hun mewn dŵr poeth, ar ôl cael ei wahardd y llynedd am sarhau cystadleuydd arall, Kevin Reza yn hiliol yn ystod y Tour de Romandie.

Cafodd ei gyhuddo fis diwethaf o achosi gwrthdrawiad yn fwriadol a’r llynedd, cafodd ei ddiarddel o bencampwriaeth y byd am afael mewn car cynorthwyol yn ystod y ras.

Mae disgwyl i’r Cymro, Dave Brailsford, rheolwr tîm Sky benderfynu ar ôl i’r Tour de France ddod i ben a fydd e’n cael ei gosbi ymhellach, ac fe ymddiheurodd am y digwyddiad.