Mae Geraint Thomas wedi ennill unfed cymal ar ddeg y Tour de France, gan symud i flaen y ras yn La Rosière.

Mae’r canlyniad yn golygu mai’r Cymro fydd yn gwisgo’r crys melyn yn y cymal nesaf.

Brwydrodd yn galed am y chwe chilomedr olaf wrth ddringo o Albertville i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Fory, fe fydd e’n gwisgo’r crys melyn am yr ail waith, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn y cloc yn Düsseldorf y llynedd.

Bydd y cymal nesaf yfory (dydd Iau) yn mynd o Maurice Les Arcs i Alpe d’Huez.