Mae Geraint Thomas yn dechrau 11eg cymal ras feics y Tour de France yn yr ail safle heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 18).

Greg van Avermaet sy’n gwisgo’r crys melyn ar y brig, ond Julian Alaphilippe gipiodd fuddugoliaeth yn y degfed cymal i’r Grand Bornard ddoe (dydd Mawrth).

Yn dilyn perfformiad tîm Sky, dywedodd y Cymro Geraint Thomas: “Roedd yn ras dda gan y tîm ond roedd hi’n dal yn anodd.

“Roedd peth o’r dringo’n serth ac roedden ni’n disgwyl gorfod mynd amdani wrth ddringo’r ddau dro olaf ond wnaeth hynny ddim wir digwydd.

“Ond roedd ychydig o wynt yn dod tuag aton ni wrth ddringo am y tro olaf. Roedd pawb yn rasio’n dda.

“Mae diwrnodau mawr i ddod ac efallai fod pawb yn cadw rhywbeth nôl neu wedi cyrraedd yr eithaf, dw i ddim yn gwybod, ond roedd yn ddiwrnod da, am wn i.

“Fe wnaeth y tîm rasio’n dda, dyna’r prif beth – ond mae dau ddiwrnod mawr i ddod eto.”

Cymal 11

Fe fydd rhaid dringo nifer o lethrau serth yn ystod yr unfed cymal ar ddeg o Albertville i La Rosière, ond mae Geraint Thomas wedi hen arfer â’r cwrs ar ôl cystadlu yn y Criterium du Dauphine yn ddiweddar.

Enillodd e’r ras honno ond fe allai’r tro hwn fod yn fwy annisgwyl, meddai.

“Yr un cwrs wnaethon ni rasio yn y Dauphine yw hwn, felly dw i’n ei nabod yn dda,” meddai.

“R’yn ni’n dechrau dringo am y tro cyntaf ar ôl 15km, mae’n anodd i ddringo a dw i’n sicr y bydd rhai o’r bois yn cwympo’n ôl ac yn meddwl am y diwrnod canlynol, ond dim ond 110km yw e, felly bydd e’n gystadleuol yr holl ffordd.”