Wrth i’r dyfalu barhau y gallai Geraint Thomas ddod yn brif seiclwr tîm Sky, mae’r Cymro’n dechrau nawfed cymal y Tour de France yn yr ail safle ar y cyfan.

Mae e saith eiliad y tu ôl i Greg Van Avermaet ar y brig.

Fe wnaeth e sicrhau mantais dros ei gyd-seiclwr Chris Froome, prif seiclwr presennol y tîm, wrth ddringo tua’r terfyn.

Ar ddiwedd yr wythfed cymal, dywedodd y Cymro y byddai “pawb” yn ei wylio yn dilyn ei berfformiad, ond ei fod e am “gadw’r 1% ychwanegol am ddiwrnod arall”.

Mae e wedi sicrhau ei fod e yn y ras am y crys melyn cyn i’r ras ddod i ben am ddiwrnod ddydd Llun i roi cyfle i’r cystadleuwyr orffwys.