Mae penderfyniad Andy Murray i beidio cystadlu yn Wimbledon eleni yn “siomedig”, ond bydd y digwyddiad yn bwrw ymlaen beth bynnag.

Dyna ymateb Prif Weithredwr y digwyddiad, Richard Lewis, wedi i’r cyn-bencampwr gyhoeddi na fyddai’n cymryd rhan eleni.

Daeth y cyhoeddiad ar y noson cyn y gystadleuaeth, gydag Andy Murray yn esbonio ei fod yn tynnu allan oherwydd ei fod wedi derbyn llawdriniaeth ar ei glun, ac am gael cyfle i wella’n llwyr.

“Mae hyn yn ofnadwy i Andy. Mae’n anodd iddo ef yn bersonol,” meddai  Richard Lewis. “Yn amlwg, mae’n siom. Ond, ta waeth, rhaid bwrw ymlaen.

“Rydym yn nabod y chwaraewyr Prydeinig yn dda, ac mae’n siom iddo ef – rydym yn dymuno’r gorau iddo. Mewn rhyw flwyddyn, efallai byddwn yn canmol y penderfyniad.”