Cafodd record newydd ei gosod yn ras y merched yn Hanner Marathon Abertawe ddydd Sul (Mehefin 24).
Tracy Barlow o Thames Valley ddaeth i’r brig mewn 73 munud a 51 eiliad – yr amser cyflymaf erioed. Roedd Laura Graham yn ail a Gladys Ganiel yn drydydd.
Matt Clowes o Gaerdydd enillodd ras y dynion, gan guro Josh Griffiths, oedd yn ail, a Phillip Matthews, oedd yn drydydd.
Richie Powell oedd yn fuddugol yn y ras mewn cadeiriau olwyn, gan orffen mewn 1:02:04.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.