Mae Geraint Thomas wedi ymestyn ei fantais yn ras y Criterium du Dauphine yn Ffrainc.

Y Cymro oedd yn gwisgo’r crys melyn ar ddechrau’r dydd heddiw, ac fe orffennodd e’r cymal olaf ond un yn yr ail safle.

Pello Bilbao enillodd y cymal 110km, oedd yn gofyn i’r cystadleuwyr ddringo bedair gwaith a gorffen ar gopa.

Roedd Geraint Thomas 21 eiliad y tu ôl i Pello Bilbao ar ddiwedd y cymal, ond mae ganddo fe faintais o funud a 29 eiliad yn y gystadleuaeth erbyn hyn.

Bydd y cymal olaf ddydd Sul dros bellter o 136km ac mae’n dechrau ac yn gorffen yn Le Bettex.