Mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi cwrs ras y ‘Tour of Britain’ 2018, ac wedi cadarnhau mai yng Nghymru y bydd hi’n dechrau ac yn gorffen.

Fe fydd y beicwyr yn cychwyn o Barc Gwledig Pen-bre, Sir Gár ar ddydd Sul, Medi 2, ac yn gorffen yng Nghasnewydd.

Bydd y beicwyr yn mynd drwy Gaerfyrddin, Aberhonddu a  Brynbuga ar eu hynt, cyn taclo’r allt 800m Belmont ar gyrion Caerdydd. Bydd y cwrs 1.140km yn mynd drwy Ddyfnaint hefyd, a Bryste, Cumbria, Llundain a Nottingham dros wyth cymal  o rasio.

Yn ogystal â chwrs heriol bydd cefnogwyr seiclo yn edrych ymlaen at gael gweld sêr y byd seiclo gyda thimau BMC Pro Cycling, Lotto Soudal, Mitchelton Scott, Movistar Team, Quick-Step Floors, Team Dimension Data, Team EF Education First – Drapac, Team Katusha Alpecin, Team Lotto NL Jumbo, Team Sky (rhan o World Tour yr UCI), Aqua Blue Sport, Direct Energie, Wanty – Groupe Gobert (UCI Pro Continental) a Thîm Prydain wedi’u gwahodd.

Bydd rhestr derfynol y timau yn cael eu cadarnhau ar Orffennaf 16.