Mae cyflwynydd rhaglen frecwast y BBC, Louise Minchin, wedi ymddiheuro ar cael ei chyhuddo o dwyllo yn ystod triathlon Slateman yn Eryri ddydd Sul.

Roedd cyflwynwraig BBC Breakfast yn adolygu’r papurau newydd yn fyw ar yr awyr pan ddaeth hi o hyd i stori lle’r oedd un o’i gwrthwynebwyr wedi ei chyhuddo o gael mantais annheg yn ystod y cymal beicio.

Mae lle i gredu ei bod hi wedi cysgodi cystadleuydd arall, Sam Gardiner er mwyn cael rhagor o gyflymdra ac i arbed egni wrth ddringo.

Dywedodd Sam Gardiner wrth bapur newydd The Sun: “Mi wnaeth hi dwyllo. Mae’n ras galed. Yn ystod y seiclo, dw i’n teimlo ’mod i’n marw. Mae Louise yn honni ei bod hi wedi gwneud rhywbeth gwych ac mae’n fy ngwneud yn drist. Mi wnaeth hi ddweud rhywfaint o gelwydd wrth bobol.”

Dywedodd fod Louise Minchin wedi cael rhybudd yn ystod y ras ei bod hi’n gwneud rhywbeth o’i le.

Gwadu ond ymddiheuro

Dywedodd y gyflwynwraig ei bod hi wedi trafod y mater â swyddogion y ras, ac wedi ymddiheuro wrth ei gwrthwynebydd. Ond mae hi’n gwadu ei bod hi wedi gwneud dim o’i le.

Mae Louise Minchin wrthi’n hyrwyddo llyfr newydd am ei gyrfa fel cystadleuydd triathlon.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y BBC a threfnwyr y ras.