Mae’r Gymraes Non Stanford wedi ennill medal efydd yng Nghyfres Triathlon y Byd yn Yokohama yn Siapan.

Llwyddodd hi i drechu Ashleigh Gentle o Awstralia o 22 eiliad.

Flora Duffy o ynys Bermiwda gipiodd y fedal aur, a’r Americanes Katie Zaferes enillodd y fedal arian.