Fe fydd y Cymro Mark Williams yn herio John Higgins yn rownd derfynol Pencampwriaeth Byd Betfred heddiw ar ôl llwyddo i guro Barry Hawkins neithiwr.

Ar ôl gornest hynod agos, dim ond yn y fframiau olaf y llwyddodd Mark Williams i fynd ar y blaen, gan guro ei wrthwynebydd 17-15 tua hanner nos neithiwr.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau gyn-bencampwr snwcer wynebu ei gilydd yn ngêm derfynol y Bencampwriaeth Byd.

Wrth gyrraedd y gêm derfynol am y tro cyntaf ers 2003, gobaith Mark Williams yw ennill y Bencampwriaeth am y trydydd tro. Mae John Higgins eisoes wedi ennill y bencampwriaeth bedair gwaith – unwaith yn llai na Ronnie O’Sullivan.

Fe fydd y chwarae’n dechrau yn y Crucible, Sheffield y prynhawn yma am 2 o’r gloch.