Ar ôl adennill tir yn gynharach y bore yma i fod yn gyfartal ar 10-10, mae’r Cymro Mark Williams wedi llithro’n ôl ychydig eto yn rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd Betfred.

Er ei fod ar y blaen 50-0 ar gychwyn ffrâm olaf y dydd, Barry Hawkins aeth â hi gan adennill mantais o ddwy ffrâm ar 13-11.

Bydd y chwarae’n ail-ddechrau heno, gyda’r cyntaf i gyrraedd 17 yn mynd drwodd i herio naill ai John Higgins neu Kyren Wilson yn y rownd derfynol sy’n cychwyn yfory.