Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad yn ystyried cyflwyno ras gyfnewid yn y dyfodol lle byddai athletwyr a phara-athletwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar y trac rhedeg ac yn y pwll nofio.

Mae mwy o bara-athletwyr yn y Gemau ar Arfordir Aur Awstralia nag erioed o’r blaen, gyda 300 o athletwyr yn cystadlu am 38 o fedalau.

Bydd y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol yn ymchwilio i’r posibilrwydd.

Dywedodd prif weithredwr Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad, David Grevemberg y byddai ras o’r fath yn “arloesol ac yn ysbrydoliaeth”.

Bydd adolygiad ar ôl y Gemau presennol yn ystyried pa gampau fydd ar gael yn Birmingham ymhen pedair blynedd, gyda dynion a merched eisoes yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rasys cyfnewid yn y triathlon.