Dwy fedal efydd sydd wedi sicrhau bod Cymru’n cyrraedd eu record o ran nifer medalau mewn Gêmau Cymanwlad tros y dŵr,

Fe lwyddodd y reslwr Curtis Dodge i ddod yn drydydd yn y categori 74kg – bedair blynedd ar ôl iddo gystadlu yn y jiwdo.

A thrydydd a gafodd Olivia Breen hefyd yn y gystadleuaeth parathletau 100m T38 – hynny’n ychwanegu at ei medal aur yn y naid hir.

Mae’r ddwy fedal yn golygu bod Cymru bellach wedi cyrraedd 25 – cymaint â’r un gystadleuaeth dramor o’r blaen, o gynnwys y parathletau.

Mae yna sicrwydd o ragor o fedalau yn y bocsio hefyd ac mae nifer eraill yn cystadlu mewn rowndiau terfynol.

Mae gan Gymru saith aur, wyth arian a deg efydd.