Mae’r rhedwr 400m dros y clwydi, Dai Greene allan o Gemau’r Gymanwlad ar ôl anafu llinyn y gâr wrth ymarfer yn Awstralia.

Mae’r anaf yn golygu na fydd y Cymro, sy’n gyn-Bencampwr Byd, Ewrop a’r Gymanwlad, yn gallu cystadlu yn y rhagbrawf ddydd Mawrth.

Dywedodd y rhedwr o Lanelli: “Rwy’n hynod siomedig o golli allan ar y cyfle i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y pedwerydd tro.

“Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn emosiynol iawn ac mae hyn yn siom fawr mor hwyr yn y dydd.

“Mae cynrychioli Cymru yn golygu llawer iawn i mi. Dyna pam y brwydrais mor galed i wella o fy anaf blaenorol er mwyn sicrhau y byddwn yn cyrraedd y Gemau.”

Cefnogi’r tîm

Mae disgwyl iddo aros yn Awstralia i gefnogi ei gyd-redwyr am weddill y Gemau.

“Mae yna grŵp anhygoel o athletwyr allan yma ac mi fyddaf yn eu cefnogi gant y cant wrth iddyn nhw anelu am fwy o fedalau.

“Rydyn ni wedi cael cychwyn arbennig wrth i Bethan Davies ennill y fedal efydd yn y gystadleuaeth gyntaf ac yna Livvy Breen yn cipio’r aur.

“Rwy’n hyderus fod mwy o fedalau i ddod ac rwy’n edrych ymlaen at ddathlu’r llwyddiant hwnnw.

‘Positif’

Ychwanegodd: “Mae yna’n dal lawer i fod yn bositif iawn amdano. Roedd fy amseroedd rhedeg yn Ne Affrica fis diwethaf yn dda ar gyfer y pen yma o’r flwyddyn. Mae wedi rhoi llawer o hyder i mi ar gyfer y tymor sydd i ddod. Er gwaetha’r siomedigaeth yma, rwy mewn sefyllfa gref ar gyfer yr haf.”

Wrth ymateb i benderfyniad Dai i dynnu’n ôl, meddal Chef de Mission Tîm Cymru, yr Athro Nicola Phillips: “Yn amlwg, rydyn ni’n rhannu siomedigaeth Dai.

“Mae bob amser yn ergyd colli athletwr o’i galibr ef, sy’n gwybod cymaint o ymroddiad sydd ei angen i ennill yng Ngemau’r Gymanwlad. Byddwn yn cynnig pob cefnogaeth i Dai ac yn edrych ymlaen i’w weld yn ôl ar y trac yn fuan.”

“Roedden ni i gyd yn edmygu’r ffordd y llwyddodd Dai i oresgyn cyfnod maith o fod wedi’i anafu i gymhwyso ar gyfer y tîm. Mae wedi delio gyda’r sefyllfa yma mor bositif ac mae hynny’n adrodd cyfrolau am ei gymeriad.”

‘Siomedig iawn’

Dywedodd Pennaeth Perfformiad gydag Athletau Cymru, Scott Simpson: “Roedden ni i gyd yn hynod falch o’r hyn y llwyddodd Dai i’w gyflawni yn Ne Affrica ym mis Chwefror. Roedd yn gwbl anhygoel iddo gyflawni’r safon A ddwywaith a sicrhau ei le yn y Gemau.

“Roedd ei berfformiad yn argoeli’n addawol iawn ar gyfer llwyddiant yma yn Awstralia. Bu’n hyfforddi’n gadarn wedi’r rasys hynny, ond ar ôl cyrraedd yr Arfordir Aur cafodd anaf i linyn y gâr nad yw wedi medru gwella ohono er gwaethaf ein holl ymdrechion.

“Mae’n siomedig iawn ei fod wedi gorfod tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth. Ond mae gennym ni bob ffyrdd y bydd yn dymor ardderchog iddo.”