Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi cipio’r trebl ar ôl curo Sheffield Steelers o 3-1 yn ffeinal gemau ail gyfle’r Gynghrair Elit yn y brifddinas.

Roedd y Cymry eisoes wedi cipio tlysau’r Gynghrair Elit a Chyngres Erhardt, a dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill y gemau ail gyfle ers 1999.

Roedd yn gyfle hefyd i dalu’r pwyth yn ôl am y golled i’r Steelers yn yr un gystadleuaeth y tymor diwethaf.

Sgoriodd Matt Pope am y nawfed gêm yn olynol i roi’r Devils ar y blaen ar ôl 24:53.

Ychwanegodd y Devils ail gôl cyn yr egwyl wrth i Amddiffynnwr y Flwyddyn y Gynghrair Elit, Andrew Hotham sgorio ar ôl 38:41.

Tarodd y Steelers yn ôl drwy Eric Neiley ar ôl 45:55 ond daeth y gôl fuddugol i’r Devils gydag 17 eiliad yn weddill wrth i Jake Morrissette ddarganfod cefn y rhwyd.