Gemau’r Gymanwlad ar droed ar Arfordir Aur Awstralia, mae tîm Cymru wedi profi cymysg o lwyddiant a siom hyd yma.

Yn y gystadleuaeth tenis bwrdd i dimau, fe gurodd Anna Hursey, 11, a Charlotte Carrey, India o dri phwynt i ddau yn ystod eu gêm. Ond, fe gollodd Tîm Cymru’r gystadleuaeth o 3-1.

Daeth capten Cymru, Non Stanford, 29, yn wythfed yn ystod y triathlon i fenywod – Flora Duffy o Fermiwda enillodd y gystadleuaeth hon.

Hoci

Ar nodyn mwy positif, fe lwyddodd tîm hoci merched Cymru i guro India o dri phwynt i ddau.

Daw hyn er gwaetha’r ffaith bod Cymru yn 26 ar dabl detholion y byd, tra bod India 16 safle uwch ein pennau yn y 10fed safle.

Lisa Daley a Sian French wnaeth sgorio pwyntiau cyntaf y gêm, gydag India yn dal i fyny yn ystod yr ail hanner.

Llwyddodd Natasha Marke-Jones a sgorio’r pwynt buddugol, ag ond tri munud o’r gêm ar ôl.