Mae beiciwr sy’n hanu o Gapel Dewi ger Aberystwyth wedi penderfynu tynu’n ôl o Gemau’r Gymanwlad eleni, a chanolbwyntio yn hytrach ar nod fwya’r tymor eleni, sef ras Liège-Bastogne-Liège o dan-23 ar Ebrill 14.

Fe fyddai’r daith hir a’r holl drefniadau ar gyfer cyrraedd Arfordir Aur Awstraeliad wedi ei gwneud yn amhosib i Stevie Williams fod ar ei orau i gystadlu yn y ddau ddigwyddiad.

A dyna pam y mae e wedi penderfynu aros yn Ewrop a chystadlu gyda’i dîm yn hytrach na chynrychioli Cymru.

“Fel Cymro gwladgarol, mae wedi bod yn freuddwyd gen i i gynrychioli fy ngwlad,” meddai wrth golwg360. “Ro’n i’n falch iawn pan gefais wybod fy mod wedi fy newis ar gyfer y Gemau.

“Ond mae’r tymor hyn yn bwysig i mi ar gyfer y dyfodol oherwydd mai hwn yw fy nhymor olaf o dan-23 oed.

“Ar ôl ystyried bob sefyllfa gyda fy ffrindiau, rheolwyr y tîm a Seiclo Cymru, rwy’ i wedi dod i’r canlyniad mai aros yn Ewrop sydd orau i mi. Rwy’ i eisie diolch i bawb am ddeall y sefyllfa, ac rwy’n dymuno pob lwc i Dîm Cymru yn Awstralia.”