Mae Anthony Joshua wedi colli pwysau ar drothwy ei ornest baffio fawr yn erbyn Joseph Parker yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd heno (nos Sadwrn).

Roedd y pencampwr WBA ac IBF yn pwyso 17.4 stôn – chwe phwys yn drymach na’i wrthwynebydd o Seland Newydd.

Mae hynny’n golygu bod y Sais wedi colli 12 pwys ers ei ornest ddiwethaf yn erbyn Carlos Takam ym mis Hydref.

Dywedodd fod colli pwysau’n “gwneud yr ornest hon ychydig yn haws”, a’i fod yn “teimlo’n well”.

Dywedodd ei fod yn disgwyl i’w gyflymdra fod yn well o ganlyniad i golli pwysau.

Mae disgwyl 78,000 o wylwyr yn y stadiwm ar gyfer yr ornest.