Mae beiciwr o bentref Glan-y-fferi yn Sir Gaerfyrddin, wedi gorffen yn y pedwerydd safle mewn cyfres o rasus un diwrnod yn Ffrainc.

Mae Owen James yn beicio i  dím Cotes Armor C. 

“Pan ges i gyfle, mi wnes i gamgymeriadau gwael a rwystrodd fi rhag ennill un cymal,” meddai Owen James wrth golwg360.

“Felly, fe orffenes i’n bedwerydd yn gyffredinol. Yn y ras olaf o chwech, mi orffenes yn unfed ar bymtheg, ond ro’n i’n hapus i orffen yn bedwerydd yn gyffredinol, a hynny wedi chwech diwrnod o rasio caled.

“Mi fethes i â chael medal o un pwynt yn unig!”

Safleoedd y Circuit des Plages Vendéennes

1. Fabien Schmidt, tim Cotes Armor C, 110 pwynt
2. Tony Hurel, tim Sojasun Esp, 81 pwynt
3. Thibault Ferasse, tim Nantes Atlant 52440070745, 56 pwynt
4. Owen James, tim Cotes Armor C, 55 pwynt