Tesni Evans o Gaerdydd yw’r Gymraes gyntaf erioed i fod yn bencampwraig sboncen Prydain.

Creodd hi hanes drwy guro Alison Waters o 3-0 yn y rownd derfynol ym Manceinion gyda sgôr o 11-5, 11-9, 11-7.

Roedd hi eisoes wedi creu argraff yn y gystadleuaeth ddoe drwy guro Laura Massaro, y Saesnes sy’n bedwerydd ar restr detholion y byd, a hynny hefyd o 3-0 (3-11, 8-11, 9-11).

Cafodd Tesni Evans ei geni yng Nghaerdydd ac mae hi bellach yn byw yn Y Rhyl. Mae hithau’n ddeuddegfed ar restr detholion y byd.

Dywedodd hi ar Twitter ar ôl ei buddugoliaeth yn y rownd gynderfynol na allai hi “fod yn hapusach” wrth gyrraedd y rownd derfynol.

Yn dilyn ei buddugoliaeth fawr neithiwr, dywedodd ei bod hi’n “falch o ennill y gêm, ac yn fwy balch o fod y bencampwraig sboncen Brydeinig gyntaf o Gymru”.

Gyrfa

Ar ôl bod yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow a chyrraedd yr 16 olaf yn nyblau’r merched a’r dyblau cymysg, daeth awr fawr Tesni Evans flwyddyn yn ddiweddarach wrth iddi godi tlws Pencampwriaeth Ryngwladol Sharm El Sheikh.

Fis Awst y llynedd, enillodd hi fedal efydd ym Mhencampwriaeth Ddyblau Cymysg Prydain gyda Peter Creed cyn cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Ryngwladol HKFC y merched yn Hong Kong fis yn ddiweddarach.

Ym mis Rhagfyr, cyrhaeddodd hi rownd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd y merched ym Manceinion.

Bydd hi’n teithio gyda charfan Cymru i Gemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.