Roedd diweddglo siomedig i’r Cymro Geraint Thomas yn ras feics y Volta ao Algarve ym Mhortiwgal.

Roedd e ar y blaen o 19 eiliad yn y ras gyfan ar ddechrau’r cymal olaf, ond fe gollodd ei fantais yn y pen draw i’r enillydd, Michael Kwiatowski o Wlad Pŵyl, oedd wedi ennill ei ail gymal.

Gorffennodd y Cymro’r pedwerydd cymal ddoe ar frig y gystadleuaeth, er mai’r Iseldirwr Dylan Groenewegen enillodd rhwng Almodôvar a Tavira, cymal hwya’r ras.

Mantais o dair eiliad oedd gan Geraint Thomas dros Kwiatkowski ar ddechrau’r cymal olaf o 173.5km heddiw rhwng Faro a Malhão (Loulé), wrth iddo geisio ychwanegu at ei fuddugoliaethau yn 2015 a 2016.