Mae’r Cymro Geraint Thomas yn mynd am fuddugoliaeth ar ddiwrnod olaf ras feics y Volta ao Algarve ym Mhortiwgal.

Gorffennodd e’r pedwerydd cymal ar frig y gystadleuaeth, er mai’r Iseldirwr Dylan Groenewegen enillodd y cymal rhwng Almodôvar a Tavira, cymal hwya’r ras.

Mantais o dair eiliad oedd gan Geraint Thomas dros Michal Kwiatkowski o Wlad Pŵyl ar ddechrau’r cymal heddiw, wrth iddo geisio ychwanegu at ei fuddugoliaethau yn 2015 a 2016.

Mae’r cymal olaf yn cael ei gynnal dros bellter o 173.5km rhwng Faro a Malhão (Loulé).