Enillodd y Cymro Mark Williams ei ail dlws mewn cystadleuaeth i ddetholion y tymor hwn, wrth godi tlws Meistri’r Almaen nos Sul.

Fe drechodd e’r Albanwr Graeme Dott o naw ffrâm i un.

Daw ei lwyddiant diweddaraf ar ôl iddo ennill Pencampwriaeth Agored Gogledd Iwerddon ym mis Tachwedd.

Enillodd e’r ffrâm gyntaf gyda rhediad o 79, ac fe aeth ymlaen i gael chwe rhediad arall dros 50.

Enillodd Graeme Dott y drydedd ffrâm gyda rhediad o 64, ond roedd y Cymro ar y blaen o saith ffrâm i un ar ddiwedd y sesiwn gyntaf, gan sgorio rhediad o 110 yn yr wythfed ffrâm.

Sgoriodd y Cymro 66 a 50 yn y ddwy ffrâm olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth – y chwaraewr cyntaf erioed i ennill y gystadleuaeth ddwy waith.