Mae sîn sglefrfyrddio gogledd Cymru yn “tyfu go iawn” yn ôl un o aelodau’r criw cyntaf i geisio hybu’r gamp trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Cafodd criw ‘Dŵr’ ei sefydlu ym Mangor yn 2007 gyda’r nod  o sglefyrddio a chreu fideos am y gamp – a bellach, mae tua 40 o bobol yn aelodau, a’r hynaf yn 55 oed.

Yn ôl un o sefydlwyr y grŵp, Yannick Hammer, 27, sydd yn cyfrannu at greu’r fideos, mae’r sin yn y gogledd yn mynd o nerth i nerth, a bellach mae ganddo ddilyniant rhyngwladol hefyd.

“Mae’r [sin yng ngogledd Cymru] yn tyfu go iawn,” meddai wrth golwg360. “Mae Sidewalk Magazine [cylchgrawn sglefrfyrddio Seisnig] yn rhannu pob dim rydan ni’n rhoi allan.

“Mae pobol o’r Almaen yn gwybod amdanon ni. Mae parciau sglefrfyrddio newydd yn dod, ac mae pobol newydd yn ymuno. Mae mwy o sglefrfyrddwyr yn dod i ogledd Cymru.”

Ond, er bod Yannick Hammer – a gafodd ei eni yn yr Almaen ond sy’n byw yn Ynys Môn – yn ffyddiog bod diddordeb yn y gamp ar gynnydd, mae’n cydnabod bod stigma yn bodoli o hyd, gyda llawer yn cysylltu sglefrfyrddio â phobol ifanc yn loetran a chodi twrw.

“Dw i ddim yn meddwl bydd hynna byth yn newid. Mae rhai yn ei hoffi, a dydi rhai ddim. Ond rydan ni jest yn cario mlaen. Go with the flow.”

Pwy yw Dŵr?

Criw sydd wedi’i seilio ym Mangor yw ‘Dŵr’ ac sydd wedi bod yn rhannu fideos sglefrfyrddio ar gyfrif YouTube ers 2009.

Mae’r deunydd wedi’i ffilmio mewn amryw o leoliadau ledled Cymru ac yn cynnwys caneuon gan Mr Phormula a’r Anhrefn.

Dyma un o’u fideos…