Mae pwysau ar y rhedwr 400m dros y clwydi, Dai Greene, i gymhwyso ar gyfer Gemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.

Dyw’r Cymro o Felin-foel ddim wedi cyrraedd yr amser angenrheidiol eto i gael ei gynnwys yn y tîm.

Fe fydd yn rhaid iddo orffen ras mewn 49.50 eiliad neu lai er mwyn cael cadw ei le ar gyfer y Gemau, sy’n dechrau ym mis Ebrill.

Ond fe fu’n dioddef o anafiadau lu dros y blynyddoedd diwethaf, gan golli ei nawdd gan y Loteri Genedlaethol fis Tachwedd 2016.

Mae Seren Bundy-Davies mewn sefyllfa debyg, ac mae ganddi hithau tan Fawrth 4 i orffen ras 400m mewn 51.50 eiliad neu lai.

Gweddill y tîm

Mae 93 o athletwyr o Gymru wedi’u hychwanegu bellach at y 31 o enwau a gafodd eu cyhoeddi’r llynedd.

Yn eu plith mae’r feicwraig Elinor Barker a’r rhwyfwraig Dani Rowe, enillydd y fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 – a hithau wedi symud o Loegr i Gymru’n ar ôl byw yma ers pum mlynedd.

Mae’r beiciwr Luke Rowe hefyd wedi’i gynnwys, ond fydd Geraint Thomas ddim yn amddiffyn ei deitl yn y ras ffordd.

Bydd Jazz Carlin (800 metr dull rhydd) a Georgia Davies (50 metr dull cefn) yn amddiffyn eu teitlau yn y pwll nofio.

Ac mae Non Stanford yn gobeithio ennill medal yn y triathlon i ferched ar ôl y siom o orffen yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016.

Doniau disglair

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Helen Phillips fod “pencampwyr campau Cymreig a doniau disglair addawol” yn y tîm.

“Mae safon yr athletwyr ar draws yr holl gampau’n argoeli’n dda ar gyfer Gemau llwyddiannus a pharhad Cymru ar y podiwm am nifer o flynyddoedd i ddod.”

Mae disgwyl i’r timau gymnasteg, pêl-rwyd, rygbi a hoci’r dynion a’r merched gael eu cyhoeddi maes o law.