Fe fydd Anthony Joshua yn dod i Gymru er mwyn parhau â’i ymgais i gael ei goroni yn bencampwr pwysau trwm digamsyniol y byd.

Fe fydd yn wynebu Joseph Parker o Seland Newydd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ar Fawrth 31.

Mae Anthony Joshua eisoes yn dal fersiynau WBA a IBF o’r teitl, a’i obaith yw cipio hefyd wregys WBO Parker.

Dim ond y pencampwr CBS o America, Deontay Wilder, fyddai rhyngddo ef a charl y set lawn o wregysau wedyn.

“Dydi hi ddim yn mynd i fod yn rhwydd,” meddai Anthony Joshua, “oherwydd mae lot yn y fantol, felly pob parch i dîm (Joseph) Parker am gymryd yr her.

“Rwy’n edrych ymlaen.”

.