Mae blwyddyn newydd yn llawn cynlluniau, gobeithion ac addewidion i nifer ohonom ni, ond mae gŵr o Flaenau Ffestiniog wedi bod yn ymarfer ers rhai misoedd ar gyfer her yn Ne America fis nesa’.

Fe fydd Adrian Bradley, 46, yn teithio i Chile i gymryd rhan yn y Santa Cruz Andes Pacifico Montenbaik Enduro, ras pum niwrnod sy’n mynd ag o  Andes Uchel i’r Pasiffig. Gan ddechrau dros 3600m uwchben lefel y môr, fe fydd y cystadleuwyr yn rasio pum cymal ac yn wynebu 12,000m o gwymp fertigol.

“Dw i wedi bod yn beicio ers 20 mlynedd, ac yn rasio i lawr allt ers 16 mlynedd, tan i anaf cefn a dwy lawdriniaeth roi diwedd ar hynny,” meddai Adrian Bradley wrth golwg360.

“Fy ras ddwytha’ i oedd rownd o Bencampwriaeth Prydain yn 2015, ac mi wnes i ennill y ras felly’r oedd yn dda i fynd allan ar y top.

“Roedd yr ail lawdriniaeth gefais i yn Walton yn un ddrwg – wnaethon nhw lanast go iawn ar waelod fy nghefn a gwneud difrod i’r nerfau,  roedd fy nghoes a throed ddim yn gweithio… o’n i’n methu cerdded, o’n i ar fy nghefn am fis, ac felly’r oedd pethau am rai misoedd tan y cefais i lawdriniaeth arall.

“Mi ddywedodd yr ymgynghorwr yn Walton na faswn i ddim yn reidio beic eto, ac am flwyddyn oedd o’n iawn… O’n i’n cael trafferth cerdded, heb sôn am feicio, ond dw i wedi dal arni a gwella faint fedra’ i ac mae hwn yn her aruthrol i mi wneud ond dw i’n edrych ymlaen ato…

“Dw i wedi yn codi’r milltiroedd yn raddol ers tua tri mis,” meddai Adrian Bradley wedyn. “Mae’n rhaid i mi fod yn gall yn lle bod y straen yn mynd yn ormod i’r corff i ddelio efo fo, ond dw i’n beicio tua 70-100km yr wythnos – i gyd off road – a gwneud un reid tua 50km yr wythnos.

“Mi fydd y ras yn Chile yn dipyn o gamp, o ran edrych ar ôl fy nghorff a sicrhau fy mod yn gorffen yr her.”

Ras sy’n newid

Mae’r trefnwyr dros y blynyddoedd wedi gwneud pwynt o greu a darganfod rhwydwaith o  lwybrau newydd er mwyn creu digwyddiad sy’n newid yn gyson.

Mae gan fynyddoedd yr Andes yn Chile yr enw o fod yn un o’r ardaloedd gorau yn y byd ar gyfer beicio mynydd.

Mae’r ras yn mynd dros deg cwm gyda gwahanol ddaearyddiaeth a thirluniau i gyrraedd y Pasiffig. Fe fydd pob diwrnod yn golygu rhwng 30km a 60km o feicio, a dim ond 100 o feicwyr sy’n cael cymryd rhan yn y digwyddiad.

“Pe bai’r ras hon yn mynd yn iawn, a’r corff yn dal y straen, dw i’n gobeithio gwneud mwy o’r math yma o ‘Multi Stage Enduros’ yn y dyfodol,” meddai Adrian Bradley.

“Dw i’n Hedfan allan i Santiago, prif ddinas Chile, ar y degfed o Chwefror, a mynd i’r gwersyll ar y 11ed, ac mae’r ras yn cychwyn ar y 12fed tan y 17eg a gorffen ar draeth y môr Pasiffig – mewn un darn, gobeithio.”