Mae’r Cymro o Went, Mark Williams drwodd i wyth olaf cystadleuaeth snwcer Meistri Prydain yn yr Alexandra Palace yn Llundain.

 

Fe gurodd e’r Sais Mark Selby o chwe ffrâm i bump yn y rownd gyntaf ddoe.

 

Mae Williams – un o ddau Gymro sydd ar ôl yn y gystadleuaeth ynghyd â Ryan Day – wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn y gorffennol – yn 1998 a 2003.

 

Fe ddechreuodd e gyda rhediad o 135 yn y ffrâm agoriadol, a dyblu ei fantais gydag 89 yn yr ail ffrâm.

 

Ond fe darodd ei wrthwynebydd o Gaerlŷr yn ôl i sicrhau mantais o bum ffrâm i dair.

 

Y Cymro enillodd y ddwy ffrâm ganlynol i’w gwneud hi’n bum ffrâm yr un.

 

Y Sais oedd ar y blaen am ran helaeth o’r ffrâm olaf, ond methodd e’r bêl goch olaf i roi cyfle i’r Cymro glirio’r bwrdd a sicrhau’r fuddugoliaeth.

 

Fe fydd e’n herio naill ai Barry Hawkins neu Kyren Wilson yn rownd yr wyth olaf ddydd Gwener.

 

Dywedodd Mark Williams ei fod e “ar ben ei ddigon” yn dilyn y fuddugoliaeth, a’i fod yn “chwarae dipyn gwell nag ydw i wedi chwarae ers nifer o flynyddoedd”.

 

Ryan Day v Ding Junhui (rownd gyntaf), dydd Llun, Ionawr 15 (1 o’r gloch)

 

Mark Williams v Barry Hawkins / Kyren Wilson, dydd Gwener, Ionawr 19 (7 o’r gloch, BBC2)