Fe fydd y paffiwr Anthony Joshua yn dychwelyd i Gaerdydd ar Fawrth 31 i herio Joseph Parker mewn gornest uno pwysau trwm.

Daeth cadarnhad heddiw y bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality yn dilyn wythnosau o drafod.

Bydd y Sais yn mynd ben-ben â’r ymladdwr o Seland Newydd, gan roi ei wregysau WBA ac IBF yn y fantol. Gwregys WBO sydd gan Parker, a hynny ers 2016.

Fe fydd Anthony Joshua yn dychwelyd i’r stadiwm lle curodd e Carlos Takam fis Hydref.

Mae Joseph Parker wedi ei rybuddio fod “sioc” o’i flaen pan fydd y ddau yn cwrdd.