Ddechrau’r mis, fe ychwanegodd yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg, Brett Johns o Bontarddulais, ei enw yn y llyfrau hanes.

O fewn 30 eiliad i ddechrau ei ffeit fawr yn erbyn yr Americanwr Joe Soto yn Las Vegas, roedd y Cymro Cymraeg wedi sicrhau buddugoliaeth ar noson yr Ultimate Fighter Finale, noson ola’r tymor Ultimate Fighting Championship, sef haen ucha’r gamp.

Ac fe greodd e hanes wrth gwblhau’r ffeit, drwy fod yr ail berson erioed i sicrhau buddugoliaeth gan ddefnyddio symudiad o’r enw calf slicer. Doedd y symudiad hwnnw ddim wedi cael ei ddefnyddio ers i Charles Oliveira drechu Eric Wisely yn 2012.

Ac roedd y canlyniad yn golygu bod Brett Johns yn dychwelyd i Gymru gyda bonws o $50,000, a’i fod yn ddiguro mewn 15 o ornestau erbyn hyn.

Dywedodd Brett Johns wrth golwg360: “I fod yn onest, so fe’n teimlo fel bod e wedi digwydd. 30 eiliad, dyna i gyd oedd e. O’dd popeth wedi cwympo mewn i’w le.

“O’n i’n teimlo’n wych am y ffeit. O’dd y weigh-in wedi mynd yn iawn, ddim yn wych ond yn iawn. O’n i jyst yn teimlo’n dda am y ffeit.”

‘Disgwyl 15 munud o frwydr’

Mae Brett Johns yn cyfaddef fod sicrhau’r canlyniad mor gyflym wedi bod yn sioc iddo.

“O’n i’n meddwl bydde fe’n cymryd y 15 munud. O’dd e’n un o’r ffeits yna sy jyst yn dibynnu ar fel mae’r ffeit yn mynd. O’n i’n meddwl fod e’n mynd i fod yn 15 munud o frwydr.

“Ond fi ddim yn mynd i ddadlau fod 30 eiliad ddim yn dda hefyd. Fi’n hapus iawn gyda’r perfformiad.”

‘Symudiad allai hollti pen-glin’

‘Pikey’ fu ffugenw Brett Johns ers peth amser, ond mae’r symudiad oedd wedi sicrhau’r fuddugoliaeth iddo yn Las Vegas yn debygol o arwain at ffugenw newydd iddo.

Calf slicer yw’r term ar gyfer y symudiad buddugol sy’n dibynnu ar gryn gryfder yn y coesau ac fel yr eglura Brett, mae e wedi bod yn ei ymarfer ers tro yn y gampfa yn Fforest-fach yn Abertawe.

Leg lock yw e. Lan yn Fforest-fach, fi’n gwneud lot o bethau gyda’r coesau fel foot locks.

“Y calf slicer, leg lock yw e. Lan yn Fforest-fach, fi’n neud lot o bethau gyda’r coesau fel foot locks. Un o’r rhai fi’n hoffi yw’r calf slicer. Fi’n hoffi’r symudiad. O’n i’n lwcus iawn i gael y gorffeniad gyda’r calf slicer. Fi’n hapus iawn achos o’dd bonws hefyd am wneud hwnna. Mae e’n submission eitha’ peryglus i’r coesau. Galle fe hollti pen-glin.”

Pam fod y symudiad mor anodd?

Yn ôl Brett Johns, mae angen symud yn gyflym er mwyn gosod gwrthwynebydd mewn sefyllfa lle mae modd defnyddio’r calf slicer arno er mwyn dod â gornest i ben.

“Mae e’n anodd oherwydd, pan wyt ti’n graplo, mae pawb yn symud eu coesau nhw bob man. I gael pwysau ar y goes i gadw fe’n llonydd a mynd amdano fe, mae’n galed iawn. Ond o’n i wedi’i wneud e o’r take-down. O’n i’n lwcus iawn bod y goes yna ar yr amser o’dd e.”

Beth nesaf?

Yn dilyn ei fuddugoliaeth ddiweddaraf, mae Brett Johns yn awyddus i ddychwelyd i’r O2 yn Llundain.

Yn y fan honno y digwyddodd un o eiliadau mwyaf siomedig ei yrfa hyd yn hyn, pan gafodd ei ffeit ei chanslo ar yr unfed awr ar ddeg ym mis Mawrth, wrth i’w wrthwynebydd Ian Entwistle dynnu’n ôl.

Pe bai’r ornest wedi’i chynnal, fe fyddai wedi brwydro ar yr un cerdyn â’i arwr Brad Pickett, ac yntau’n ymladd am y tro olaf erioed y noson honno.

Ychwanegodd: “O’dd y siawns yna wedi cael ei dynnu i ffwrdd oddi wrtha i, achos o’dd Entwistle wedi tynnu ma’s ar ddydd y ffeit. O’n i’n siomedig iawn am hwnna.

“Ond mae siawns nawr i ymladd yn Llundain, a fi’n mynd i gymryd hwnna gyda’r ddwy law.”