Mae’r Cymro Euros Jones-Evans wedi ennill medal arian ym Mhencampwriaeth No Gi y Byd yn Los Angeles.

Mae’r bencampwriaeth wedi’i threfnu gan y Ffederasiwn Jiu-Jitsu Brasilaidd Rhyngwladol, a chafodd ei chynnal yng Nghanolfan Gonfensiwn Anaheim, un o ganolfannau mwyaf talaith Califfornia.

Mae No Gi yn golygu nad yw’r cystadleuwyr yn gwisgo kimono – neu’r wisg ymladd draddodiadol – ac felly does dim hawl gan gystadleuwyr afael yn nillad ei gilydd yn ystod yr ornest.

Brwydrodd y Cymro Cymraeg yn erbyn Rondo Moss a Bryan Wagner yn ystod y gystadleuaeth.

Cynhyrchydd teledu a ffilm yw Euros Jones-Evans o Abertawe, ond mae hefyd yn aelod o dîm cynorthwyol yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg o Bontarddulais, Brett Johns ac yn ymarfer yn Academi Chris Rees yn y ddinas.

Fe gyd-gynhyrchodd e raglen Ymladdwr UFC yn olrhain hanes yr ymladdwr ifanc ar gyfer S4C, ac yntau’n sylfaenydd y cwmni ffilm Tanabi yn Abertawe.

‘Breuddwyd’

Yn dilyn ei lwyddiant, dywedodd Euros Jones-Evans ei fod yn “falch iawn o ennill medal arian yn y gystadleuaeth”.

Ychwanegodd: “Roedd yn freuddwyd cael cystadlu yn y gystadleuaeth hon a heddiw mi ddaeth yn realiti.

“Diolch yn fawr iawn i Chris Rees a Shane Price [ei bartner ymarfer] am yr holl hyfforddiant a chefnogaeth ac i Brett, Phil, Mark, Leon, Elliot, Nick a Sam, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am bob cymorth.

“Ac yn olaf, buaswn yn hoffi diolch i fy holl deulu a ffrindiau am eu holl gefnogaeth ar hyd y ffordd.”