Mae un o gyd-feicwyr y Gymraes Nicole Cooke wedi marw yn 43 oed.

Roedd Sharon Laws yn dioddef o ganser ceg y groth.

Fe fu’r ddau yn aelodau o dîm Olympaidd Prydain a enillodd y fedal aur yn y ras ffordd yn Beijing yn 2008.

Dywedodd Seiclo Prydain mewn datganiad: “Fe fydd pawb sy’n caru seiclo yn cael eu heffeithio gan farwolaeth Sharon.

“Roedd ganddi galon mor fawr ac roedd hi’r un mor benderfynol yn ei bywyd ag yr oedd hi ar ei beic, ac mi gynrychiolodd ei gwlad gyda rhagoriaeth.

“Mae meddyliau pawb yn Seiclo Prydain gyda’i ffrindiau a’i theulu.”