Bydd deuddeg o Gymry yn cystadlu ar y codi pwysau yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia’r flwyddyn nesaf.

Yn cystadlu ar ran y dynion bydd Seth Casidsid (56kg), Gareth Evans (69kg), Harry Misangyi (85kg), Joshua Parry (94kg), Jordan Sakkas (105kg) a Rhodri West (+105kg).

A’r merched yn mynd i Awstralia yw: Hannah Powell (48kg), Catrin Jones (53kg), Christie Williams (58kg), Faye Pittman (69kg), Laura Hughes (75kg) a Tayla Howe (90kg).

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu dewis. Rydan ni yn dymuno’n dda i iddyn nhw wrth baratoi at y gemau,” meddai Helen Phillips, Cadeirydd Bwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru.

Ac ychwanegodd Simon Roach, Rheolwr  Chwaraeon gyda Codi Pwysau Cymru:

“Rwy’n falch iawn i weld tîm cryf wedi’i ddewis ar gyfer y gemau. Mae’r athletwyr wedi gweithio’n eithriadol o galed i gael eu dewis. Maen nhw’n hynod o falch i gael y cyfle i gynrychioli eu gwlad.”