Cipiodd yr ymladdwr crefftau ymladd cymysg Brett Johns o Bontarddulais fuddugoliaeth hanesyddol yn Las Vegas yn oriau man y bore ma.

Roedd e’n ymladd yn yr Ultimate Fighter Finale, sef uchafbwynt haen ucha’r gamp.

Fe gurodd e’r Americanwr Joe Soto mewn 30 eiliad wrth gloi ei goesau ac fe ildiodd ei wrthwynebydd wrth i’r Cymro ymosod ar groth ei goes – yr ail waith yn unig i’r symudiad hwnnw gael ei gwblhau’n llwyddiannus yn yr Octagon, a’r tro cyntaf ers i Charles Oliveira drechu Eric Wisely yn 2012.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Brett Johns bellach yn ddi-guro mewn 15 o ornestau.

Fe fydd modd dilyn hynt a helynt Brett yn Las Vegas ar dudalen Facebook ‘Hansh’ S4C.