Mae rhedwr o Ynys Môn wedi cwblhau Marathon Efrog Newydd, gan gynghori unrhyw un sydd eisiau rhedeg marathon mai “hon ydi’r un”.

Roedd Gareth Parry o Lanfairpwllgwyngyll wedi ymarfer am fisoedd, ond cafodd anaf i’w ben-glin wythnosau cyn y diwrnod mawr.

“Roeddwn i wastad wedi bod eisiau cwblhau marathon ac roedd nifer yn canmol un Efrog Newydd,” meddai wrth golwg360. “Roeddwn wedi ymarfer am fisoedd yn cymryd rhan yn y Great North Run ym mis Medi a hanner marathon Caerdydd ym mis Hydref, dau ddigwyddiad arbennig.

“Roedd gen i darged i redeg y marathon o dan bedair awr, roeddwn wedi cael yr amser hwn yn fy mhen gan ystyried faint oeddwn yn cymryd i gwblhau’r digwyddiadau eraill oeddwn wedi cwblhau.

“Ond  wnaeth y ben-glin dechrau chwarae fyny gyda’r diagnosis o ‘patellar tendonitis’ , roeddwn bron â thorri fy nghalon ar ôl yr holl ymarfer.”

Awyrgylch gwych

“Roeddwn wedi talu  i fynd a’r teulu drosodd gyda fi, felly roedd rhaid mynd,” meddai wedyn. “Roedd yr awyrgylch yn wych, yn enwedig mynd trwy Central Park, roedd pobol ym mhob man yn annog y rhedwyr.

“Roeddwn wedi strapio’r ben-glin, ond roedd y tair milltir olaf yn hunllef, heblaw am gefnogaeth y bobol ochr ffordd a gwybod bod y teulu’n aros amdana’ i, dw i ddim yn gwybod sut fuaswn i wedi ymdopi. Roeddwn mor falch o weld y llinell derfyn,” meddai.

“Roedd rheswm arall am orffen, roeddwn yn rhedeg  i elusen Awyr Las, er budd Tîm Irfon, roedd y boen  yn y ben-glin yn ddim byd i’w gymharu â beth mae rhai pobol yn mynd drwodd.

“Mae’r marathon mor arbennig, gyda rhedeg dros y pontydd enwog fel Brooklyn Bridge yn fythgofiadwy. Mi wnes orffen mewn amser o  4awr 13 munud, roeddwn wedi deud mai ond unwaith roeddwn am redeg marathon – ond dw i eisiau mynd o dan bedwar awr. Mi fydda’ i’n ôl.”