Roedd buddugoliaeth chwerwfelys i’r Cymro Mark Williams neithiwr wrth iddo godi tlws Pencampwriaeth Snwcer Agored Prydain yn Belfast.

Roedd ansicrwydd cyn dechrau’r gêm a fyddai’n gallu chwarae gan fod ei wraig yn sâl yn yr ysbyty.

Ond fe ddangosodd gryn ddewrder wrth frwydro hyd y diwedd i drechu Yan Bingtao o Tsieina o naw ffrâm i wyth.

Roedd rhediad o 42 yn y ffrâm olaf yn ddigon i drechu ei wrthwynebydd 17 oed i gipio pedwerydd teitl dethol ar bymtheg ei yrfa – a’i deitl cyntaf ers 2011.

Wrth drydar yn ystod yr egwyl cyn y sesiwn olaf, dywedodd y Cymro o bentref Cwm yng Ngwent: “1 sesiwn i fynd yna adref i fod gyda’r wraig yn yr ysbyty, efallai lle dylwn i fod wedi bod o’r dechrau.”